Medi 21, 2017


‘Beth sy’n bwysig’ wrth lunio’r cwricwlwm newydd i Gymru?
 
“In each subject field there are some basic ideas which summarise much of what scholars have learned…These ideas give meaning to much that has been learned, and they provide the basic ideas for dealing with many new problems... We believe that it is a primary obligation of the scholars [and] teachers to search constantly for these abstractions, to find ways of helping students learn how to use them in a great variety of problem situations... To learn to use such principles is to possess a powerful way of dealing with the world”
 
Bloom (1981), Evaluation to Improve Learning; tud. 235
 
Mae’r dyfyniad uchod gan Bloom yn disgrifio un o’r heriau niferus sy’n wynebu’r grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf y gwaith o ddatblygu cwricwlwm. Tasg y grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf fydd penderfynu beth yw’r ‘syniadau mawr’ hynny ar gyfer eu Meysydd Dysgu a Phrofiad nhw. Yn y grŵp Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y Dyniaethau, y strategaeth yr ydym wedi dewis ei mabwysiadu yw nodi’r ‘syniadau mawr’ neu ein cysyniadau ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ (fel y cânt eu galw maes o law) yn y disgyblaethau sy’n perthyn i’r maes (Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Cymdeithasol) ac yna archwilio’r cysyniadau trosfwaol cyffredin sy’n cysylltu’r disgyblaethau ym maes y Dyniaethau â’i gilydd er mwyn creu fframwaith i ddarparu’r gydlyniaeth fewnol y mae Graham Donaldson yn ei disgrifio yn Dyfodol Llwyddiannus.
 
Pan fydd y cysyniadau hyn ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ wedi’u datblygu, cam nesaf y gwaith fydd cael y grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad i benderfynu beth sy’n gyffredin rhwng y cysyniadau eang hyn a’r gwaith sy’n mynd rhagddo mewn Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill, a datblygu’r fframwaith a fydd yn ein galluogi i ddangos datblygiad dysgwyr o’r adeg pan fyddant yn 3 oed i’r adeg pan fyddant yn 16 oed. Bydd arloeswyr yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow i ddatblygu manylion ynghylch sut y caiff datblygiad ei ddisgrifio yn y Maes Dysgu. 
 
Dylunio Tuag yn Ôl?

Mae’r dull gweithredu hwn yn debyg i’r dull ‘dylunio tuag yn ôl’ yr oedd Wiggins a McTighe yn ei gefnogi yn eu cyhoeddiad ‘Understanding by Design’ (2005). Yn y cyhoeddiad hwnnw, mae’r awduron yn rhybuddio rhag yr hyn y maent yn ei alw’n ddau bechod y dull dylunio traddodiadol ar gyfer datblygu cwricwlwm. Y ddau bechod dan sylw yw canolbwyntio ar weithgareddau a chanolbwyntio ar ymdriniaeth wrth ddylunio. Mae’r ddau yn honni mai’r hyn y mae arnom ei angen yw pwrpas deallusol neu flaenoriaethau clir i fframio’r profiad dysgu. Bydd y dull gweithredu hwn yn golygu rhoi’r gorau i ofyn ‘pa lyfr wnawn ni ei ddarllen?’ neu ‘pa weithgareddau wnawn ni?’ neu ‘beth y byddwn ni’n ei drafod?’ a dechrau gofyn ‘beth y dylai’r [dysgwyr] fod yn gallu ei ddeall wrth gerdded allan drwy’r drws, waeth pa weithgareddau neu destunau rydym yn eu defnyddio?’
 
 

 
Mae’r diagram uchod yn crynhoi sut y mae’r dull ‘dylunio tuag yn ôl’ yn berthnasol i’n gwaith ni yn y Maes Dysgu a Phrofiad.
 
O ble y mae’r cysyniad ynghylch ‘syniadau mawr’ (‘beth sy’n bwysig’) yn tarddu?

Yn ei llyfr Stirring the head, heart and soul: redefining curriculum and instruction, mae Lynne Erickson (2001) yn egluro’r hyn y mae hi’n ei ystyried yn nodweddion unigryw ‘syniadau mawr’ yn y cwricwlwm. I Erickson, mae syniadau mawr:-

  • Yn eang ac yn haniaethol
  • Yn cael eu cynrychioli gan un neu ddau air
  • Yn gyffredinol eu natur o safbwynt y modd y gellir eu gweithredu
  • Yn oesol
  • Yn cael eu cynrychioli gan enghreifftiau gwahanol i’w gilydd sy’n rhannu nodweddion cyffredin.
 
Mae Wiggins a McTighe (2005) yn adeiladu ar y diffiniad hwn ac yn cynnig y canlynol, gan ddatgan bod syniad mawr…

  • Yn gallu darparu “lens” gysyniadol ar gyfer unrhyw astudiaeth
  • Yn ehangu ystyr drwy gysylltu a threfnu llawer o ffeithiau, sgiliau a phrofiadau, gan weithredu fel echelbin dealltwriaeth
  • Yn cyfeirio at syniadau sydd wrth wraidd dealltwriaeth arbenigol o’r pwnc
  • Yn mynnu rhywfaint o waith datgelu oherwydd nad yw ei ystyr neu’i werth yn aml yn amlwg i’r dysgwr, ei fod yn mynd yn groes i reddf y dysgwr neu’i fod yn tueddu i gael ei gamddeall
  • Yn werthfawr o safbwynt trosglwyddo; bydd yn berthnasol i lawer o faterion ac ymholiadau eraill dros gyfnod – yn llorweddol (ar draws pynciau) ac yn fertigol (ar hyd amryw flynyddoedd mewn cyrsiau diweddarach) yn y cwricwlwm a’r tu allan i’r ysgol.
 
Yn fwy diweddar, mae Wynn Harlen et al. (2015) wedi datblygu fframwaith cwricwlwm ‘syniadau mawr’ ar gyfer addysg ym maes Gwyddoniaeth (mae’r ddolen gyswllt i’w gweld isod), ac mae’r Gymdeithas Ddaearyddol hefyd wedi datblygu rhai canllawiau defnyddiol ynghylch ‘syniadau mawr’ ym maes Daearyddiaeth (mae’r ddolen gyswllt i’w gweld isod).
 
Gwyddoniaeth:- https://www.ase.org.uk/resources/big-ideas/
Y Gymdeithas Ddaearyddol:- http://www.geography.org.uk/cpdevents/onlinecpd/globaldimension/bigideas/
 
Roedd y grŵp rhyngwladol o arbenigwyr a gafodd eu cynnull i ddatblygu’r ‘syniadau mawr’ ym maes Gwyddoniaeth yn cytuno y dylai syniadau mawr:

  • Fod â phŵer esboniadol sy’n gysylltiedig â nifer fawr o wrthrychau, digwyddiadau a ffenomenau y bydd y myfyrwyr yn dod ar eu traws yn eu bywydau, yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol ac wedi hynny 

  • Darparu sylfaen ar gyfer deall materion megis y defnydd o ynni, a chynnwys gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar iechyd a lles y dysgwr, iechyd a lles pobl eraill a’r amgylchedd 

  • Arwain at fwynhad a bodlonrwydd o safbwynt gallu ateb y mathau o gwestiynau y mae pobl yn eu gofyn amdanynt eu hunain ac am fyd natur, neu ddarganfod atebion i’r cwestiynau hynny
  • Bod ag arwyddocâd diwylliannol – er enghraifft, o safbwynt effeithio ar farn am y cyflwr dynol – gan adlewyrchu cyflawniadau yn hanes gwyddoniaeth, ysbrydoliaeth o astudio byd natur, ac effeithiau gweithgarwch pobl ar yr amgylchedd. 

 
Un rheswm a roddir yn y cyhoeddiad hwn i gyfiawnhau pam y dylai’r cwricwlwm gael ei fframio yn y modd hwn yw datblygiadau ym maes niwrowyddorau. Dyma a ddywedodd Harlen et al. (2015):-
 
“Advances in research into the activity of the brain are rapidly identifying factors that facilitate effective learning. A relevant finding is that ideas that are connected are more readily used in new situations than unconnected ideas. This provides support for working towards a few big ideas that enable understanding of the world and our experiences in it, rather than a series of disconnected items of knowledge.”

Mae’r fframwaith ar gyfer syniadau mawr ym maes Gwyddoniaeth yn diffinio 14 o syniadau y dylai disgyblion ddatblygu dealltwriaeth ohonynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae hanfodion rhai o’r syniadau hynny mewn disgyblaeth wyddonol benodol, e.e. Mae pob sylwedd yn y Bydysawd wedi’i wneud o ronynnau bach iawn (Cemeg). Caiff y rhain eu disgrifio fel syniadau ‘sy’n perthyn i Wyddoniaeth’tra mae rhai eraill yn archwilio syniadau cyd-destunol ehangach ‘ynghylch gwyddoniaeth’ e.e. Mae’r modd y caiff gwyddoniaeth ei chymhwyso’n aml yn esgor ar oblygiadau moesegol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Yna, caiff naratif ar gyfer datblygiad ei lunio o oedrannau 7-11, 11-14 a 14-17. Mae’r ddogfen hefyd yn darparu canllawiau ynghylch methodolegau asesu a dulliau dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu.  


O safbwynt datblygu’r cysyniadau ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ ym maes Daearyddiaeth, mae’r Gymdeithas Ddaearyddol yn cyfeirio at bwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r cysyniadau sylfaenol sy’n ymwneud â ‘lle’, ‘gofod’, ‘graddfa’ a’r ‘amgylchedd’, a ategir gan waith datblygu sgiliau daearyddol (ymholi). Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y dimensiwn byd-eang. Mae’r dull ‘syniadau mawr’ yn ffordd wahanol iawn o gysyniadoli’r cwricwlwm, o gymharu â chwricwlwm daearyddiaeth 2008, lle caiff gofynion dysgu eu mynegi yn nhermau sgiliau ac ystod – ni ofynnir i’r cynlluniwr cwricwlwm ystyried pam y mae astudio’r meysydd hyn yn bwysig a sut y mae hynny’n cysylltu â dealltwriaeth ddaearyddol gyffredinol ehangach.

Un fantais glir o ddatblygu syniadau mawr fel y man cychwyn ar gyfer datblygu cwricwlwm ysgol i ddysgwyr o bob oed yw’r ffaith y dylai’r fethodoleg annog cydlyniaeth ar draws y cyfnodau allweddol presennol, lle nad yw pontio bob amser yn esmwyth a lle mae gofyn defnyddio athroniaethau neu ddulliau gweithredu gwahanol yn aml.

Dull cyffredin o ymdrin â ‘beth sy’n bwysig’ ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad?

Fel y byddwch wedi gweld erbyn hyn, ceir nifer o ddehongliadau gwahanol o sut y gallai ‘syniadau mawr’ (beth sy’n bwysig) gael eu mynegi. Felly, mae’n bwysig bod grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad yn defnyddio dull cyffredin o weithio. Gan gofio hynny, bydd y grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad yn gweithio’n unol â thempled dylunio cyffredin yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf a byddant yn adrodd yn ôl ynghylch y tasgau canlynol wrth y Panel Cwricwlwm ac Asesu ym mis Tachwedd:-

1)    Datganiad ynghylch sut y mae’r Maes Dysgu a Phrofiad yn ategu’r Pedwar Diben
2)    Teitl cysyniad allweddol ‘beth sy’n bwysig’ (ar ffurf datganiad)
3)    Naratif ar gyfer datblygiad o fewn y cysyniad allweddol (boed yn ‘syniadau sy’n perthyn i’r maes’, yn ‘syniadau ynghylch y maes’ a/neu’n ‘sgiliau’)
4)    Nifer gyfyngedig o egwyddorion arweiniol sy’n benodol i’r Maes Dysgu a Phrofiad
 
Byddwch i gyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gennym yn nes ymlaen yn y flwyddyn am y cynnydd y mae’r grwpiau wedi’i wneud!
 
Cyfeiriadau:- 
 
Bloom, B (et al.) (1981) Evaluation to Improve Learning; New York: McGraw Hill
 
Erickson, L (2001) Stirring the head, heart and soul: Redefining curriculum and instruction (2il argraffiad) Thousand Oaks, CA: Corwin Press
Wiggins, G a McTighe, J (2005) Understanding by Design; Alexandria VA: ASCD
Harlen, W et al. (2015) Working with the Big Ideas of Science Science Education Programme (SEP) of IAP


Awduron y blog 



James Kent
Arweinydd Maes,
y Cwricwlwm Ehangach
ac Ysgolion Arloesi



Mike Cameron
Arweinydd Dysgu
Proffesiynol a
Chydlynydd Sefydlu
Rhanbarthol
 
 
Old Blogs

Newyddion Diweddaraf
Y Rhaglen Athrawon Graddedig A Llwybrau Amgen Newydd At Addysgu
Y Rhaglen Athrawon Gra...
Ni fydd y Rhaglen Athrawon Graddedig ar gael yn...
Awst 2019: Deilliannau Blwyddyn 11 (Canlyniadau dros dro ar ddiwrno...
Awst 2019: Deilliannau...
Hoffai’r GCA longyfarch yr holl ddysgwyr ...
Porthwr Trydar
© 2014 - Education Achievement Service (EAS)

Powered by WebBased Ltd © 2017 | Version 4.0.1